Language Horizons

Language Horizons.

Awdur: Lucy Jenkins
Cyhoeddwyd: 10 Medi 2020

Roedd Language Horizons (LH) yn brosiect uchelgeisiol ac arloesol a oedd yn harneisio grym mentora i ysbrydoli chwilfrydedd tuag at ieithoedd a diwylliannau ymhlith dysgwyr 12-14 oed (blwyddyn 8 a blwyddyn 9). Y nod allweddol oedd trosi’r hedyn hwnnw o chwilfrydedd a brwdfrydedd yn awydd i astudio ieithoedd ar lefel TGAU. Mae’r syniad ar gyfer y prosiect yn seiliedig ar y prosiect Mentora ITM hynod lwyddiannus sydd wedi bod ar waith yng Nghymru ers 2015.
Adran Addysg Lloegr oedd yn ariannu Language Horizons gyda Phrifysgol Caerdydd yn ei arwain, ar ôl cyflwyno cynigion llwyddiannus mewn dwy rownd dendro gystadleuol (2018 a 2019). Nod craidd y prosiect oedd cynyddu nifer y dysgwyr sy’n astudio ieithoedd ar gyfer TGAU yn Lloegr, a chafodd y dasg o ddylunio, gweithredu a gwerthuso llwyddiant prosiect mentora cyfunol ar gyfer cyd-destun newydd.

Cenhadaeth a Gweledigaeth

Ceisiodd y prosiect gyflawni ei nodau trwy wneud y canlynol:

  • tynnu sylw at fanteision dysgu iaith ar lefel TGAU, Safon Uwch a gradd.
  • codi disgwyliadau, gwella cymhelliant a chryfhau dyfalbarhad a gwytnwch personol y dysgwyr sy’n astudio ieithoedd.
  • creu cysylltiadau cynaliadwy rhwng adrannau ieithoedd modern addysg uwch ac ysgolion uwchradd partner.
  • cynnig profiadau a chyfleoedd ystafell ddosbarth i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig iaith, gyda’r bwriad o annog nifer fwy i ystyried addysgu ac addysg, ac i ddefnyddio modelau rôl cyfoedion agos i ysbrydoli dysgwyr.
  • ehangu gorwelion a dyheadau dysgwyr trwy dynnu sylw at y cyfleoedd o ran lles, gyrfa a symudedd sydd ar gael i’r rheini sydd â sgiliau iaith.

 

Nid oedd Language Horizons yn targedu dysgwyr a oedd yn astudio iaith benodol ond yn hytrach roedd yn annog dysgwyr i fod yn chwilfrydig ynghylch pob iaith a diwylliant. Roedd yn gofyn i ddysgwyr herio a chwestiynu eu safbwyntiau a’u tybiaethau ynghylch eraill trwy ddilysu ymdeimlad o luosogrwydd ac amlieithrwydd yn yr unigolyn ac yn y gymdeithas. Roedd yn cymeradwyo’r syniad bod pawb yn rhan o gymuned fyd-eang gan nad yw unrhyw gymdeithas yn uniaith nac yn un-ddiwylliannol. Roedd yn ystyried y syniad o hunaniaeth sefydlog fel problem ac yn annog barn bod cael eich dylanwadu gan eraill, gan ieithoedd eraill a diwylliannau eraill yn rhywbeth a oedd yn ychwanegu yn hytrach na’n tynnu. Yn y pen draw, dangosodd fod byd-ehangder yn feddylfryd, yn agwedd ac yn ddull o feddwl, felly nid yw’n dibynnu ar symudedd gwirioneddol ac felly mae’n agored i bawb, ni waeth pa iaith y maent yn ei dysgu na pha mor rhugl ydynt. Trwy ymdrin ag ieithoedd modern fel hyn, nod y prosiect oedd rhoi cyfrwng i ddysgwyr dros ddysgu iaith a’u hymdeimlad o bwy ydynt trwy greu cymhelliant cynhenid i ddysgu iaith.

Gweithredu

Dim ond gyda dysgwyr a oedd wedi nodi eu bod yn ansicr ynghylch parhau i astudio ieithoedd modern ar ôl Cyfnod Allweddol 3 yr oedd y prosiect yn gweithio. Defnyddiodd Language Horizons fethodoleg fentora i greu perthynas a oedd yn canolbwyntio ar y dysgwr a oedd yn cynnig lle ar gyfer holi cwestiynau ac archwilio er mwyn magu hyder a chyfeirio at gyfleoedd ar gyfer dysgu. Mae mentora yn arfer gwahanol i addysgu, gyda’r mentor yn chwarae rôl unigryw ym mywyd y dysgwr. Nod y mentor yw helpu mentoreion i ffurfio eu barn eu hunain, datblygu safbwyntiau gwahanol, a datblygu fel unigolyn. Cynhaliwyd y mentora hwn wyneb yn wyneb ac ar-lein trwy lwyfan digidol pwrpasol gyda galluoedd sgwrsio parod. Dyluniodd a datblygodd tîm y prosiect adnoddau ar-lein yn ogystal â chreu’r ysgogiad ar gyfer y sesiynau ar-lein a’r rhyngweithio. Hyfforddwyd mentoriaid i gyflwyno’r gweithgareddau wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Cynhaliwyd Language Horizons rhwng 2018 a 2020, a llwyddodd i gyflwyno mentora am ddwy flynedd lawn. Sefydlodd Language Horizons bartneriaeth rhwng Prifysgol Sheffield a Phrifysgol Sheffield Hallam yn ystod cam cyntaf y prosiect (2018-2019). Yn y cyfnod dilynol mwy (2019-2020), ehangodd i gynnwys Prifysgol Warwick a Phrifysgol Coventry.

Deilliannau

Roedd y prosiect yn gweithio gyda deg ysgol leol a dau gant o ddysgwyr yn ystod ei gam cyntaf, ac roedd yn canolbwyntio ar ardal De Swydd Efrog. Roedd pob un o’r ddau gant o ddysgwyr a gymerodd ran yn ystod y cam hwn wedi penderfynu peidio ag astudio ieithoedd yn flaenorol. Dangosodd gwerthusiad allanol fod cymryd rhan yn y sesiynau mentora wedi arwain at 53% o ddysgwyr yn newid eu meddwl ac yn dewis TGAU iaith. Penderfynodd yr Adran Addysg ail-ariannu’r prosiect, yn sgil llwyddiant y prosiect peilot, er mwyn ymestyn ei gyrhaeddiad yn Ne Swydd Efrog ac i sefydlu canolfan newydd yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Roedd hyn yn nodi dechrau Cam 2.

Roedd Cam 2 Language Horizons yn bartneriaeth rhwng pedair prifysgol yn Lloegr, o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, Cymru. Hyfforddwyd myfyrwyr o Brifysgol Sheffield, Prifysgol Sheffield Hallam, Prifysgol Warwick, a Phrifysgol Coventry i gyflwyno sesiynau mentora mewn dau ranbarth yn Lloegr. Yn ystod Cam 2, bu cyfanswm o 70 o fentoriaid yn mentora mewn 38 o ysgolion ar draws y ddwy ganolfan. Roedd gwerthusiad allanol yn ystod ail flwyddyn y prosiect wedi canfod bod 56% o’r dysgwyr a gymerodd ran yn y rhaglen bum wythnos wedi mynd ymlaen i astudio ieithoedd modern ar gyfer TGAU, er gwaethaf eu hansicrwydd blaenorol. Mae hyn yn cymharu â’r nifer cyfartalog o 46%  ledled Lloegr ac er gwaethaf y cymhlethdodau a ddaeth yn sgil Covid-19.

Yn anffodus, daeth yr arian ar gyfer Language Horizons i ben ym mis Awst 2020 yn dilyn y sefyllfa iechyd cyhoeddus a oedd yn datblygu.

Mae rhagor o wybodaeth a deilliannau pellach i’w gweld yn y gwerthusiad allanol a gynhaliwyd yn 2020. Cliciwch yma i’w weld.

Dilynwch @2210Lucy ar Twitter.